P-04-362 Gwasanaethau Ambiwlans ym Mynwy

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym ni o’r farn y dylai Mynwy gael y ddarpariaeth ambiwlans briodol. Gan fod disgwyl i boblogaeth Mynwy gynyddu, a bod Uned Mân Anafiadau Monnow Vale wedi cau’n ddiweddar, bydd rhagor o alw ar y gwasanaeth ambiwlans.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Rydym yn gofyn i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol gynnal ymchwiliad i’r gwasanaeth ambiwlans yng nghefn gwlad Cymru. Byddem yn annog y Pwyllgor i ymchwilio i’r problemau penodol sy’n bodoli ym Mynwy a pha effaith gafodd cau’r Uned Mân Anafiadau yn Monnow Vale ar y gwasanaeth ambiwlans.

Llywodraeth Cymru:
Rydym yn annog y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddefnyddio’i phwerau i’w gwneud yn ofynnol i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ddarparu gwasanaeth ambiwlans o safon uchel ledled Cymru ac yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel Mynwy.

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru:
Rydym yn galw ar Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i wella’r ddarpariaeth ym Mynwy mewn termau real, gydag uned dibyniaeth fawr a/neu ambiwlans yn nhref Mynwy.

Prif ddeisebydd: Mathew Davies

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 7 Chwefror 2012

Nifer y deisebwyr: Casglwyd tua 450 o lofnodion.